Gwyddor empiraidd sy'n astudio ac yn cymharu credoau ac arferion moesol o wahanol ddiwylliannau, gwledydd, ac oesoedd yw moeseg ddisgrifiadol neu foeseg gymharol. Cyferbynnir moeseg ddisgrifiadol â moeseg normadol, ac ystyrir y gangen hon o foeseg yn un o wyddorau pur cymdeithas, megis anthropoleg a chymdeithaseg, yn hytrach na ffurf ar athroniaeth foesol, gan ei bod yn ymdrin â ffeithiau yn hytrach na dyfarniadau gwerth.[1]
Nod moeseg ddisgrifiadol ydy ymchwilio i gredoau ac arferion moesol a manylu arnynt, yn ogystal â'u dehongli a'u hesbonio yn nhermau'r amodau cymdeithasol, economaidd, a daearyddol sy'n eu siapio. Fel gwyddor gymharol, mae'n ystyried y nodweddion sy'n gyffelyb i wahanol gyfundrefnau moesol a hefyd yn sylwi ar y gwahaniaethau rhyngddynt. Try'r ysgolhaig ganfod achosion cyffredin i egluro sut mae moesau yn datblygu, o ganlyniad i achosion dynol a naturiol, a sut mae cysylltiadau croesddiwylliannol a datblygiadau hanesyddol a thechnolegol yn effeithio ar foeseg.[1]
Mae pob cymdeithas bron yn dibynnu ar normau sydd wedi eu hen sefydlu ynglŷn â'r teulu, dyletswyddau'r unigolyn, gweithgareddau rhyw, hawliau eiddo, ffyddlondeb, a dibynadwyedd yr unigolyn o ran dweud y gwir a chadw addewid. Mae rhai gwyddonwyr moesegol yn astudio'r gwahaniaethau sy'n diffinio gwahanol gymdeithasau, tra bo eraill yn canolbwyntio ar reolau moesol cyfanfydol, er enghraifft y tabŵau byd-eang sy'n gwahardd llofruddiaeth a llosgach. Gall arferion moesol amrywio'n sylweddol o un gymdeithas i'r llall, er enghraifft unbriodas ac amlbriodas. Pwnc pwysig ym moeseg ddisgrifiadol ydy'r cwestiwn ynglŷn â pha un ai tebygrwydd neu wahaniaeth sy'n fwyaf sylfaenol i foesoldeb, ac os gellir llunio moeseg gonsensws y'n gyffredin i ymddygiad dynol neu os yw perthynoledd ddiwylliannol yn diffinio moesau'r ddynolryw yn y bôn. Mae'r cwestiynau hyn yn pontio moeseg ddisgrifiadol ac athroniaeth foesol normadol.[1]